Rhaglen Deledu Newyddion
a Materion Cyfoes y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y rhaglen deledu newyddion neu raglen deledu materion cyfoes orau a ddarlledwyd rhwng 1 Hydref 2018 a 30 Medi 2019 ar sianel deledu Gymreig neu ei gario ar wefan yn gwasanaethu cynulleidfa Gymreig.
Rhaid i waith a gyflwynwyd cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Dylid ceisiadau gan raglenni newyddion gynnwys tri gwahanol eitem sy’n arddangos eu gwaith gorau, hyd at fwyafswm o 30 munud i gyd. Cewch wneud dim ond un cais am bob rhaglen.
Dylid ceisiadau gan raglenni/podlediadau materion cyfoes gynnwys rhifyn sengl. Os dymunwch gyflwyno mwy nac un rhifyn, os gwelwch yn dda gwnewch hynny fel ceisiadau ar wahân.
Rhaid i chi:
-
egluro mewn 300 gair pam fod eich rhaglen chi yn haeddu ennill Rhaglen Deledu Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn
-
lwytho eich cais i fyny i YouTube, a chynnwys y ddolen, neu ddarparu dolen i wefan lle gellir gwylio eich cais. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hynny yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2020. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad.
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ansawdd, dyfeisgarwch a gwreiddioldeb o ran cynnwys
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
gyflwyniad - lefel ymgysylltiad gwrandäwr y mae’n ei ddarparu. Ydy’r gwaith yn ateb cwestiynau’r gwylwyr? Ydy o’n herio?
-
ansawdd y gwaith camera, golygu a sgript
-
strwythur: distylliad o bynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
ba mor drawiadol ac arwyddocaol yw’r newyddion
-
ehangder a dyfnder yr ymchwil
-
gydbwysedd a thegwch
-
werthoedd cynhyrchu a golygu uchel
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan gall methu a gwneud hynny arwain at ddiarddel eich cais.