

Newyddiadurwr Teledu’r Flwyddyn
Noddwyd gan

Dylid ceisiadau gynnwys tair stori newyddion, neu un gyfres o dair stori newyddion ar unrhyw un pwnc.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru, a’i ddangos ar raglen newyddion ar sianel deledu Gymreig neu ymddangos ar wefan newyddion seiliedig yng Nghymru rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021.
Rhaid i chi:
-
lwytho eich ceisiadau i fyny i YouTube, a chynnwys y dolenni, neu ddarparu dolen i wefan lle gellir gwylio eich gwaith. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
gyflwyno un cais yn unig ar gyfer y categori hwn o uchafswm o 15 munud i gyd, yn cynnwys tair eitem
-
ddarparu datganiad cefnogi (uchafswm 300 gair), yn esbonio eich gwaith a sut fe’i cafwyd/gynhyrchwyd
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ansawdd cyffredinol o ran dyfnder ac ehangder y casglu newyddion a gohebu
-
dystiolaeth o waith sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol - ee drwy ddatgeliadau a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
datgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
mewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
unigrywiaeth y cynnwys
-
straeon sy’n goleuo’r darllenwyr/gwrandawyr/gwylwyr, ac yn darparu atebion
-
ddefnydd o ystod o blatfformau amlgyfrwng a graffeg i fwyhau a datblygu’r stori
-
dystiolaeth o waith a wnaethpwyd i gael y stori - nifer y ffynonellau a ddefnyddiwyd
-
wreiddioldeb a chreadigrwydd - e.e. straeon sy’n archwilio safbwyntiau newydd ar bynciau cyfarwydd
-
arddull yr ysgrifennu/cyflwyno, y defnydd o iaith
-
adeiladwaith a strwythur y stori - eglurder cyflwyno’r stori, dechreuad sy’n cymell
-
y gallu i ddistyllu a chyflwyno pynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
gywirdeb, tegwch a chydbwysedd y gohebu
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan gall methu a gwneud hynny arwain at ddiarddel eich cais.