tocynnau
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i fynychu Gwobrau Cyfryngau Cymru eleni.
Mae’r noson yn codi pres ar gyfer Elusen y Newyddiadurwyr, sy’n cefnogi newyddiadurwyr sy’n gweithio ac wedi ymddeol gyda chyngor, grantiau a ffurfiau eraill o gymorth ariannol.
Cyflwynir y gwobrau ar 20 Mawrth 2020 mewn seremoni tei du yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, dan arweiniad cyflwynydd BBC Cymru Wales Lucy Owen a Jonathan Hill, ITV Cymru Wales.
Bydd yn noson yn cynnwys derbyniad gwin pefriog, pryd tri chwrs, cyflwyniad y Gwobrau, a chyfle helaeth i gymdeithasu a rhwydweithio gyda chydweithwyr y cyfryngau o ledled Cymru gyda bar hwyr tan 1.00yb.
Gellir prynu tocynnau’n unigol am £90.00 yr un ac mae bwrdd ar gyfer 10 yn costio £875. Ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer y categorïau Newyddiaduraeth Gymunedol a Newyddiadurwr Myfyriwr Ed Townsend YN UNIG sy’n gymwys ar gyfer UN tocyn yr ymgais am bris gostyngedig o £58.
I brynu tocynnau ar-lein o’ch cyfrif banc, os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen gyntaf isod, a byddwch yn derbyn manylion ynglŷn â sut i wneud taliad.
Pe bai’n well gennych i Elusen y Newyddiadurwyr eich anfonebu, os gwelwch yn dda cwblhewch yr ail ffurflen isod (Cliciwch yma)