Papur dyddiol/dydd Sul y Flwyddyn
Noddwyd gan
Am y tri rhifyn, heb fod yn olynol, o bapur dyddiol neu ddydd Sul a gyhoeddwyd rhwng 1 Hydref 2018 a 30 Medi 2019.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno dolenni i fersiynau electronig o’r tri phapur - ni dderbynnir copïau caled. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2020. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
egluro mewn 300 gair pam fod eich papur yn haeddu ennill Papur Newydd y Flwyddyn
-
gyflwyno un cais yn unig ar gyfer y categori hwn
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ystod a pherthnasedd y cynnwys
-
ansawdd a chywirdeb yr ysgrifennu
-
wreiddioldeb y pwnc, cyflawniad a safbwyntiau
-
fanylder y gohebu - ansawdd y casglu gwybodaeth, dyfnder yr ymchwil, ystod y ffynonellau
-
hygrededd/awdurdod
-
waith sydd yn unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
werthoedd cynhyrchu a golygu uchel
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.