

Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn
Noddwyd gan
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Am y tair stori newyddion chwaraeon orau, neu un gyfres o straeon chwaraeon a ymddangosodd mewn print, ar-lein neu a gafodd eu darlledu rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021. Ni ddylai unrhyw gyfres a gyflwynir fod yn fwy na thair erthygl.
Rhaid i waith a gyflwynwyd cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno straeon a ymddangosodd mewn print fel PDFs o’r tudalen(nau) yr ymddangoson nhw arno/arnynt
-
ddarparu dolenni ar gyfer straeon ar-lein. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau yn fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gallai methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
lwytho gwaith radio a theledu i fyny i YouTube, a chynnwys y dolenni, neu ddarparu dolenni i wefan ble gellir gwylio neu wrando ar eich gwaith. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau yn fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gallai methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
gyflwyno un cais ar gyfer y categori hwn
-
ddarparu datganiad cefnogi (mwyafswm 300 gair) yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/cynhyrchwyd
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ohebu, sylwebaeth a chyflwyno o ansawdd uchel, sy’n arddangos dealltwriaeth o’r gynulleidfa darged
-
fewnwelediad a dadansoddiad
-
gynnwys sy’n unigryw i’r teitl
-
gryfder cyfweliadau
-
ddefnydd o ystod o blatfformau amlgyfrwng a graffeg i fwyhau a datblygu’r stori
-
sain atmosfferig (radio)
-
arddull ysgrifennu/cyflwyniad
-
adeiladwaith a strwythur stori
-
ddefnydd da o ddyfyniadau/clipiau
-
dystiolaeth o wybodaeth gref am chwaraeon
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.