

Rhaglen Glywedol Newyddion
a Materion Cyfoes y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y rhaglen newyddion neu raglen/podlediad materion cyfoes orau a ddarlledwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021 ar orsaf radio Gymreig neu ar wefan neu lwyfan ar-lein yn gwasanaethu cynulleidfa Gymreig.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Dylid ceisiadau o raglenni newyddion gynnwys tair eitem wahanol sy’n arddangos eu gwaith gorau, hyd at fwyafswm o 30 munud i gyd. Cewch wneud un cais yn unig ar gyfer pob rhaglen.
Dylid ceisiadau gan raglenni/podlediadau materion cyfoes gynnwys rhifyn sengl. Os dymunwch gyflwyno mwy nac un rhifyn, os gwelwch yn dda gwnewch hynny fel ceisiadau ar wahân.
Rhaid i chi
-
egluro mewn 300 gair pam fod eich rhaglen yn haeddu ennill Rhaglen Glywedol Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn
-
gyflwyno dolen i’ch gwaith fel y gellir gwrando arno ar-lein. Mae’n amod cystadlu bod y ddolen hon yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad.
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ansawdd, dyfeisgarwch a gwreiddioldeb o ran cynnwys
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
gyflwyniad - lefel ymgysylltiad gwrandäwr y mae’n ei ddarparu. Ydy’r gwaith yn ateb cwestiynau’r gwrandawyr? Ydy o’n herio?
-
strwythur: distylliad o bynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
ba mor drawiadol ac arwyddocaol yw’r newyddion
-
ehangder a dyfnder yr ymchwil
-
gydbwysedd a thegwch
-
werthoedd cynhyrchu a golygu uchel
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan gall methu a gwneud hynny arwain at ddiarddel eich cais.