Newyddiadurwr Clywedol y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y tair stori newyddion radio/clywedol orau, neu un gyfres o dair stori newyddion radio/clywedol ar unrhyw un pwnc, wedi eu darlledu ar y radio neu eu cario fel podlediad clywedol ar wefan newyddion neu lwyfan ar-lein rhwng 1 Hydref 2018 a 30 Medi 2019.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
ddarparu ffeil MP3, neu lwytho eich ceisiadau i fyny i YouTube a chynnwys y ddolen, neu ddarparu dolen i wefan lle gellir gwrando ar eich gwaith. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2020. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
gyflwyno un cais yn unig yn cynnwys tair stori glywedol/podlediad clywedol ar gyfer y categori hwn
-
ddarparu datganiad cefnogol (mwyafswm 300 gair), yn egluro eich gwaith a sut fe’i cafwyd/cynhyrchwyd.
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ansawdd cyffredinol o ran dyfnder ac ehangder y casglu newyddion a gohebu
-
straeon sy’n goleuo gwrandawyr ac yn darparu atebion
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
dystiolaeth o waith a wnaethpwyd i gael y stori - nifer y ffynonellau a ddefnyddiwyd
-
wreiddioldeb a chreadigrwydd - e.e. straeon sy’n archwilio safbwyntiau newydd ar bynciau cyfarwydd
-
arddull y cyflwyno, y defnydd o iaith
-
adeiladwaith a strwythur y stori - eglurder cyflwyno’r stori, dechreuad sy’n cymell
-
y gallu i ddistyllu a chyflwyno pynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
gywirdeb, tegwch a chydbwysedd gohebu
-
ansawdd cynnwys clywadwy, sain atmosfferig
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.