

Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn
Am y tair stori wleidyddol orau, neu un gyfres o straeon gwleidyddol, a ymddangosodd mewn print, ar-lein neu a ddarlledwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021. Ni ddylai unrhyw gyfres a gyflwynir fod yn fwy na thair erthygl.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno tair stori a ymddangosodd mewn print fel PDFs o’r dudalen yr ymddangoson nhw arni
-
ddarparu dolenni ar gyfer straeon ar-lein. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
lwytho gwaith radio a theledu i fyny i YouTube, a chynnwys y ddolen, neu ddarparu dolen i wefan lle gellir gwylio’r gwaith neu wrando arno. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
gyflwyno un cais yn unig ar gyfer y categori hwn
-
ddarparu datganiad cefnogi (mwyafswm 300 gair), yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/gynhyrchwyd
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
gynnwys - cydbwysedd yr ohebu, cywirdeb a thegwch, ennyn diddordeb y darllenydd/gwrandäwr/gwyliwr
-
arddull - defnydd o iaith, dechreuad sy’n cymell, defnydd effeithiol o hanesion a dyfyniadau
-
strwythur - eglurder y cyflwyniad
-
ddefnydd o ystod o blatfformau amlgyfrwng a graffeg i fwyhau a datblygu’r stori
-
arloesi - a yw straeon yn amlygu straeon neu bynciau sy’n cael eu tan-ohebu, neu’n archwilio safbwyntiau newydd ar bynciau cyfarwydd
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
ansawdd a dyfnder ymchwil a dadansoddiad
-
ddyfnder dealltwriaeth wleidyddol
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.