

Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn
Noddwyd gan

Mae’r categori hwn yn gwobrwyo delweddaeth weledol ragorol gan ffotograffydd lluniau llonydd neu ffotonewyddiadurwr rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021.
Dylid ceisiadau gynnwys un ai tri ffotograff newyddion neu gyfres o dri ffotograff nodwedd. Mae’n rhaid bod o leiaf un o’r rhain wedi ei gyhoeddi ar blatfform sydd i’w gweld gan y cyhoedd heb gyfrinair, ee gwefan neu allfa brint, ond gall y gweddill fod yn ffotograffau heb eu cyhoeddi.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno un ai tri ffotograff o dair stori newyddion ar wahân, neu gyfres o dri ffotograff sy’n darlunio erthygl nodwedd
-
gyflwyno jpg o’r llun AC - ar gyfer ffotograffau cyhoeddedig - PDF o’r dudalen brintiedig ymddangosodd arno gyda’r dyddiad cyhoeddi’n weledig, neu ddolen i’r wefan ymddangosodd arno
-
Ble rydych yn cyflwyno dolen i’ch gwaith, mae’n amod cystadlu bod y ddolen hon yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
ddarparu datganiad cefnogi (mwyafswm 300 gair), yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/gynhyrchwyd
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ddelweddaeth sy’n ehangu adrodd y stori
-
ddelweddaeth sydd ag effaith bwerus
-
greadigrwydd y lluniau
-
(ar gyfer lluniau erthygl nodwedd a gyflwynwyd) Rhediad gweledol
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at ddiarddel eich cais.