Newyddiadurwr Papur Newydd y Flwyddyn
Noddwyd gan
Am y tair stori newyddion orau, neu un gyfres o dair stori newyddion ar unrhyw un pwnc, a ymddangosodd mewn print neu ar-lein rhwng 1 Hydref 2018 a 30 Medi 2019. Ni ddylai unrhyw gyfres a gyflwynir fod yn fwy na thair erthygl.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
ddarparu eich straeon fel PDFs o’r dudalen lle’r ymddangoson nhw, neu ddolenni i fersiynau electronig o’ch gwaith. Mae’n amod cystadlu bod rhaid i ddolenni fod yn fyw, a pharhau’n fyw, tan ddiwedd mis Mawrth 2020. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol. Gallwch gael eich diarddel os na wnewch chi hyn.
-
gyflwyno un cais yn unig ar gyfer y categori hwn
-
gyflwyno datganiad gefnogi (mwyafswm 300 gair) yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/chynhyrchwyd
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ansawdd cyffredinol o ran dyfnder ac ehangder o ran casglu newyddion a gohebu
-
straeon sy’n goleuo darllenwyr/gwrandawyr/gwylwyr ac yn darparu atebion
-
waith sy’n unigryw i’r teitl
-
ddatgeliadau, ymgyrchoedd a newyddiaduriaeth ymchwiliol
-
fewnwelediad, dadansoddiad, neu archwiliad o gyd-destun y straeon
-
newyddiaduriaeth sy’n achosi newid neu sy’n cael effaith canfyddadwy (cymdeithasol, gwleidyddol, corfforaethol, trefniadol), ynghyd â thystiolaeth o’r newid hyn
-
ddefnydd o ystod o blatfformau amlgyfrwng a graffeg i fwyhau a datblygu’r stori
-
dystiolaeth o waith a wnaethpwyd i gael y stori - nifer y ffynonellau a ddefnyddiwyd
-
wreiddioldeb a chreadigrwydd - e.e. straeon yn archwilio safbwyntiau newydd ar bynciau cyfarwydd
-
arddull ysgrifennu/cyflwyniad, y defnydd o iaith
-
adeiladwaith a strwythur stori - eglurder cyflwyno’r stori, dechreuad sy’n cymell
-
y gallu i ddistyllio a chyflwyno pynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
gywirdeb, tegwch a chydbwysedd gohebu
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.