

Cylchgrawn y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y tri rhifyn, heb fod yn olynol, o gylchgrawn printiedig a/neu ar-lein a gyhoeddwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021.
Gall cylchgronau printiedig naill ai fod yn gyhoeddiadau unigol neu’n gyhoeddiadau hunangynhaliol a ddosbarthir/osodir oddi mewn i gyhoeddiad mwy.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
ddarparu dolenni i fersiynau electronig o’r tri rhifyn - ni dderbynnir copïau caled. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
egluro mewn 300 gair pam fod eich cyhoeddiad yn haeddu ennill Cylchgrawn y Flwyddyn
Bydd y beirniaid yn canolbwyntio ar ansawdd y cynnwys newyddiadurol o fewn i’r cyhoeddiad. Yn benodol, fe fyddan nhw’n chwilio am:
-
ystod a pherthnasedd cynnwys newyddiadurol a gwerthoedd golygyddol
-
ansawdd a chywirdeb yr ysgrifennu
-
wreiddioldeb y pwnc, cyflawniad a safbwyntiau
-
fanyldeb y gohebu - ansawdd y casglu gwybodaeth, dyfnder yr ymchwil, ystod y ffynonellau
-
hygrededd/awdurdod
-
effaith gyhoeddus y cynnwys
-
ddyluniad ac ansawdd y cynhyrchiad
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.