

Awdur Nodwedd y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y tair erthygl nodwedd orau a gyhoeddwyd mewn print neu ar-lein rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021 sy’n dathlu sgiliau newyddiadurol da, boed yn ymwneud â newyddion neu erthyglau nodwedd cyffredinol.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno tair erthygl nodwedd ar wahân neu gyfres unigol wedi ei chynllunio o dair erthygl nodwedd
-
gyflwyno erthyglau nodwedd a ymddangosodd mewn print fel PDFs o’r tudalennau yr ymddangoson nhw arnynt
-
ddarparu dolenni ar gyfer erthyglau nodwedd ar-lein. Mae’n amod cystadlu bod y dolenni hyn yn fyw, ac yn parhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau sydd eu hangen. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
gyflwyno un cais yn unig ar gyfer y categori hwn
-
ddarparu datganiad cefnogol (mwyafswm 300 gair), yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/gynhyrchwyd.
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
ragoriaeth mewn sgiliau ysgrifennu newyddiadurol boed yn yr amgylchedd newyddion neu beidio
-
uchelgais newyddiadurol - mynd y tu hwnt i’r dyddiadur i ddod o hyd i nodwedd dda
-
arddull - defnydd o iaith, dechrau sy’n cymell, defnydd effeithiol o hanesion a dyfyniadau
-
strwythur - eglurder cyflwyno, p’un ai yw’r nodwedd yn distyllio ac yn cyflwyno pynciau cymhleth mewn ffordd ddealladwy a chyraeddadwy
-
ddyfeisgarwch - a yw straeon yn tynnu sylw at straeon neu broblemau nad ydynt wedi eu hadrodd, neu archwilio safbwyntiau newydd ar bynciau cyfarwydd
-
ddewis o bobl a gafodd gyfweliad
-
dystiolaeth o ymchwil
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.