


I wobrwyo’r gohebu gorau mewn cymuned leol ac ar faterion cymuned leol gan unigolyn annibynnol, darparwr annibynnol (boed gyfryngau print, darlledu neu ar-lein) neu fenter gymunedol.
NODWCH: Nid yw’r categori hwn ar agor i newyddiadurwyr sy’n gweithio i ddarparwyr prif ffrwd sy’n gohebu ar faterion cymunedol (gan gynnwys Gohebwyr Democratiaeth Leol). Dylai ceisiadau gan yr unigolion hyn gael eu cyflwyno i’r categori Newyddiadurwr Arbenigol.
Rhaid i geisiadau ar gyfer y categori hwn fod o brint, radio, teledu neu safleoedd ar-lein a gynhelir gan gymunedau a grwpiau lleol i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned y darperir ar ei chyfer. Rhaid iddynt fod yn hollol annibynnol a heb eu cefnogi gan unrhyw fenter fasnachol fawr.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i gyhoeddiadau neu ddarparwyr:
-
gyflwyno tri rhifyn, rhaglen neu argraffiad (print neu ar-lein) nad ydynt yn olynol, a gynhyrchwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021
-
gyflwyno eu gwaith naill ai fel PDF neu ddolenni gwe, neu ddolenni i’w gwefan/deunydd. Mae’n amod cystadlu bod rhaid i ddolenni fod yn fyw, a pharhau’n fyw, tan ddiwedd mis Mawrth 2022. Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol. Gallwch gael eich diarddel os na wnewch chi hyn
-
esbonio mewn 300 gair sut maen nhw’n mynd ati i ohebu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned.
Rhaid i unigolion:
-
gyflwyno tair stori a gynhyrchwyd rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021
-
gyflwyno eu gwaith naill ai fel PDF neu ddolenni gwe, neu ddolenni i’w gwefan/deunydd. Mae’n amod cystadlu bod rhaid i ddolenni fod yn fyw, a pharhau’n fyw tan ddiwedd Mawrth 2022. Sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol. Gallwch gael eich diarddel os na wnewch chi hyn
-
esbonio mewn 300 gair sut maen nhw’n mynd ati i ohebu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu cymuned
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
Gyfraniadau gan unigolion neu ddarparwyr cymunedol sy’n annibynnol, h.y. ddim yn rhan o sefydliad neu grŵp o’r cyfryngau prif ffrwd
-
Straeon sy’n craffu ar y penderfyniadau a wneir sy’n effeithio ar y gymuned
-
Cynnwys sy’n rhoi gwybodaeth am gymuned leol sydd o werth i’w thrigolion ac sy’n helpu i’w tynnu ynghyd
-
Straeon sydd ddim yn cael eu hadrodd yn y cyfryngau prif ffrwd
-
Ysgrifennu cywir ac o safon
-
Rhyngweithio â’r gynulleidfa
-
Yn achos cyhoeddiadau a darparwyr – gwerthoedd cynhyrchu a golygu uchel, hawdd i ddefnyddio, a dyluniad
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.