

Colofnydd y Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y tair colofn orau a gyhoeddwyd ar brint neu ar-lein rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021, sy’n dathlu sgiliau ysgrifennu newyddiadurol da, p’un ai ydynt yn gysylltiedig â newyddion neu’n erthyglau barn gyffredinol.
Rhaid i waith a gyflwynwyd fod wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru.
Rhaid i chi:
-
gyflwyno tair erthygl ar wahân neu un gyfres a gynlluniwyd o dair colofn
-
gyflwyno erthyglau a ymddangosodd ar brint fel PDFs o’r dudalen/tudalennau yr ymddangoson nhw arnynt
-
ddarparu dolen ar gyfer erthyglau ar-lein. Rhaid i’r ddolen hon fod yn fyw i fod yn gymwys, a pharhau i fod yn fyw hyd nes diwedd mis Mawrth 2022. Sicrhewch eich bod yn darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol. Gallwch gael eich diarddel os na wnewch chi hyn
-
gyflwyno un cynnig yn unig ar gyfer y categori hwn
-
ddarparu datganiad cefnogi (mwyafswm 300 gair), yn esbonio’ch gwaith a sut fe’i cafwyd/gynhyrchwyd.
Bydd y beirniaid yn chwilio am:
-
sgiliau ysgrifennu newyddiadurol rhagorol
-
farn wreiddiol, wedi’i chyfleu mewn ffordd argyhoeddiadol
-
arddull - eich defnydd o iaith, yr agoriad yn dal sylw, defnyddio effeithiol o straeon a dyfyniadau
-
strwythur - cael ei gyflwyno’n eglur, p’un a yw’r golofn yn egluro ac yn cyflwyno barn gymhleth neu ddadleuol mewn ffordd ddealladwy a hygyrch
-
ddefnydd amrywiaeth o blatfformau amlgyfrwng a graffeg i fwyhau a datblygu’r golofn
-
arloesi - a yw’r golofn yn rhoi sylw i straeon neu faterion na roddir sylw iddynt yn aml, neu’n ystyried pynciau cyfarwydd mewn goleuni newydd
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll/arddangos gwaith unrhyw gystadleuwyr yn y categori mewn unrhyw achos o gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at eich cais yn cael ei wahardd.