Y CATEGORÏAU
Mae'r Gwobrau, sydd am ddim i ymgeisio amdanynt, yn dathlu a hyrwyddo newyddiaduraeth heb ei ail yng Nghymru - gwaith a gynhyrchwyd yng Nghymru, ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru, gan newyddiadurwyr, ffotograffwyr a gweithredwyr camera.
Bydd y beirniaid yn chwilio am geisiadau yn Gymraeg neu'n Saesneg sydd yn gymhellgar, dadlennol, o fudd i’r cyhoedd, yn llawn gwybodaeth, unigryw, neu'n ddifyr.
Bydd y beirniaid yn ystyried y lefel o sgil newyddiadurol, proffesiynoldeb ac ymdrech a ddefnyddir wrth ddadlennu gwybodaeth newydd, neu’r ymdrechion (moesegol a chyfreithiol) a wnaed gan y newyddiadurwyr wrth greu eu stori.
Trefnir y gwobrau gan Spencer David gyda chefnogaeth hael amryw o noddwyr a phartneriaid ar ran Elusen y Newyddiadurwyr yng Nghymru, y brif elusen ar gyfer newyddiadurwyr mewn angen, sy'n helpu’r newyddiadurwyr a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt drwy gynnig cyngor, grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol.
Dylech sicrhau eich bod yn darllen ac yn bodloni’r meini prawf ar gyfer pob categori rydych yn gwneud cais amdano. Mae’n hollbwysig eich bod yn dilyn y rheolau, oherwydd gall peidio â gwneud hynny arwain at ddiystyru eich cais.
Noddwyd gan Natasha Hirst Photography
Noddwyd gan Celf
Newyddiaduraeth Gymunedol y Flwyddyn
Noddwyd gan ITV Cymru Wales
Newyddiadurwr Papur Newydd y Flwyddyn
Noddwyd gan Prifysgol De Cymru
Newyddiadurwr Clywedol y Flwyddyn
Noddwyd gan Journalists' Charity
Newyddiadurwr Teledu’r Flwyddyn
Noddwyd gan NUJ Training Wales
Newyddiadurwr Gwleidyddol y Flwyddyn
Noddwyd gan Grayling
Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn
Noddwyd gan Llywodraeth Cymru
Noddwyd gan S4C Clic
Newyddiadurwr Chwaraeon y Flwyddyn
Noddwyn gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Gwobr Ed Townsend Myfyriwr Newyddiadurwr y Flwyddyn
Noddwyd gan National Union of Journalists
Noddwyd gan Liberty
Noddwyd gan Journalists' Charity
Papur dyddiol/dydd Sul y Flwyddyn
Noddwyd gan Western Power Distribution
Noddwyd gan Western Power Distribution
Noddwyd gan Openreach
Noddwyd gan Mercure Holland House Hotel
Rhaglen Deledu Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn
Noddwyd gan Spencer David
Rhaglen Glywedol Newyddion a Materion Cyfoes y Flwyddyn
Noddwyd gan Cleartech
Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn
Noddwyd gan Aston Martin
Noddwyd gan Camelot
Datganiad Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Gwobrau Cyfryngau Cymru Elusen y Newyddiadurwyr
Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt at ddibenion gweinyddu’r gwobrau yn unig. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw sefydliadau trydydd parti ac eithrio’r beirniaid enwebedig a benodwyd gennym i feirniadu’r cynigion.
Hoffem ddefnyddio eich ddata o bryd i’w gilydd i anfon gwybodaeth atoch drwy e-bost sy’n berthnasol i’r Gwobrau, e.e. ynghylch dyddiadau cau, manylion y seremoni wobrwyo ac ati.
Trwy gyflwyno eich cais, rydych yn rhoi eich cydsyniad ar gyfer cadw a defnyddio eich data yn y modd hwn.
Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg trwy anfon neges e-bost at wma@spencerdavid.co.uk