

Gweithredwr Camera’r Flwyddyn
Noddwyd gan

Am y tair eitem orau gan weithredwr camera neu newyddiadurwr sy’n hunan-ffilmio darlledwyd neu ymddangoswyd ar-lein rhwng 1 Hydref 2020 a 30 Medi 2021.
Mae’r categori hwn yn agored i weithredwyr camera ac i newyddiadurwyr, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr sydd wedi saethu’r holl ddarnau o ffilm o fewn eitem newyddion neu raglen materion cyfoes.
Rhaid bod y gwaith wedi’i gynhyrchu yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa yng Nghymru, wedi ei ddangos ar raglen newyddion sianel deledu Gymreig neu ar wefan Gymreig yn ystod y cyfnod cais.
Rhaid i chi:
-
lwytho’r tri chais i fyny i YouTube, a chynnwys y dolenni, neu ddarparu dolenni i wefan(nau) lle gellir gweld eich ceisiadau. Mae’n amod cystadlu bod angen i’r dolenni hyd fod yn fyw, a pharhau’n fyw, tan ddiwedd Mawrth 2022. Gall methu â gwneud hyn arwain at waharddiad
-
cyflwynwch un cais yn unig yn cynnwys tair eitem ar gyfer y categori hwn
-
gyflwyno datganiad cefnogi (mwyafswm o 300 gair), yn egluro eich gwaith a sut y’i cafwyd/cynhyrchwyd
Bydd beirniaid yn chwilio am:
-
greadigrwydd y lluniau - p’un ai’n ddarnau a ffilmiwyd ar y pryd neu’n ddilyniannau wedi’u cynllunio
-
arbenigedd technegol
-
ansawdd y llun
-
lluniau sy’n mwyhau dealltwriaeth o’r stori
Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i grybwyll unrhyw gystadleuwyr yn y categori hwn ac i arddangos unrhyw waith maent yn ei gyflwyno mewn unrhyw gyhoeddusrwydd a marchnata sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth heb dorri unrhyw hawlfraint.
Mae penderfyniad y beirniaid yn y categori hwn yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
SYLWCH: Mae hi’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â’r meini prawf hyn gan y gallai methu a gwneud hynny arwain at ddiarddeliad eich cais.